Datblygu Cerbydau Hydrogen

CymruH2Wales - Pecyn Gwaith 3

H2 Mazda
Tribrid Westminster 1
H2 Prius
H2 Mazda 2
Tribrid Westminster 2
H2 Mazda Engine
CUTE H2 Bus

Datblygu cell tanwydd gwthio cerbydau

Mae gallu ymchwil cryf Prifysgol De Cymru mewn systemau storio ynni trydan a systemau rheoli pŵer wedi arwain at ddatblygu prototeip cychwynnol o Gerbydau Trydan (EV) a Cherbydau Trydan Hybrid (HEV) a Cherbydau Trydan Trybrid (TEV). Mae'r gwaith hwn wedi cynnwys ymchwil sylfaenol i systemau storio ynni a phŵer, gyda phwyslais penodol ar systemau rheoli pŵer ar gyfer cerbydau'n cyfuno ffynonellau ynni batrïau, ucwhgynhwysydd a chelloedd tanwydd.

Bydd y dasg hon yn hwyluso rhagor o ddatblygiad arbrofol o'r uwch systemau pwerwaith eraill hyn, gan ganolbwyntio ar optimeiddio'r rheolaeth dros y system pŵer, datblygu rhyngwyneb y batri/cell danwydd/ goruwchgynhwysydd a gwella integreiddiad systemau cerbydau. Bydd y dasg hefyd yn cynnwys defnyddio a datblygu’r offer efelychu presennol ymhellach er mwyn galluogi cydbwyso offer yn effeithiol ar draws cylchoedd dyletswydd amrywiol. Cynhelir y gweithgareddau yn y dasg hon yn y Ganolfan Ymchwil a Datblygu Hydrogen Adnewyddadwy ym Maglan a Chanolfan Peirianneg Pwerwaith Amgen newydd y Brifysgol a agorodd yn 2010.

Datblygiad gwthio injan tanio hydrogen

Er bod llawer o'r ffocws yn rhyngwladol ar ddatblygu cerbydau cell danwydd hydrogen, gallai injans tanio mewnol hydrogen (ICEs) ddefnyddio mwy o hydrogen fel tanwydd wrth drawsnewid i economi hydrogen, er yn y lle cyntaf yn darparu dewis amgen cost effeithiol i FCs PEM, yn y tymor agos i ganol. Pan gaiff ei ymgorffori mewn cerbyd trydan hybrid, mae'n bosibl y bydd buddion amgylcheddol ac effeithlonrwydd eraill. Ar y cyd â thasg 3.1 a 3.3. bydd y dasg hon yn canolbwyntio ar ddatblygu pwerwaith injans tanio hydrogen ymarferol ar gyfer eu hintegreiddio i gerbydau maint canolog (faniau, minibysys ac ati). Rhan o'r dasg hon fydd nodi'r anawsterau ymarferol sy'n deillio o integreiddio gwahanol systemau hydrogen i gerbydau injans tanio (gan gynnwys hydrogen pur, hydrogen/CNG, hydrogen/biomethan, a chwistrellu hydrogen i ddiesel). Bydd y dasg yn datblygu’r systemau optimeiddio a’r systemau rheoli ymhellach.

Profi injans hydrogen

Bydd y dasg hon yn datblygu'r cyfleuster arbrofi injans hydrogen ym Maglan er mwyn galluogi dadansoddiad o ddata gollyngiadau a phŵer o'r injan(s) tanio hydrogen a ddewiswyd. Bydd y dasg yn cyflawni rhaglen profi injans cynhwysfawr. Fel yn nhasg 3.2 bydd y dasg hon yn gwerthuso ystod o gyfluniadau tanwydd hydrogen a hydrogen amrywiol, gan gynnwys chwistrellu hydrogen gyda diesel a CNG neu gymysgeddau nwyol biomethan. Bydd canlyniadau'r dasg hon yn cyfrannu at WP3.2 er mwyn hwyluso integreiddio ICE hydrogen addas i gerbyd(au). Disgwylir y bydd y rhaglen brofi hefyd yn arwain at sawl mecanwaith chwistrellu a chyhoeddiadau cysylltiedig.

Nodi gweithredwyr fflyd hydrogen posibl

Bydd y dasg hon yn dadansoddi'r potensial o weithredwyr a fydd yn mabwysiadu fflydoedd hydrogen yn gynnar yng Nghymru. Yn ogystal â chwrdd â gweithredwyr fflyd unigol, bydd y dasg hefyd yn cynnwys cyfarfodydd/ gweithdai er mwyn datblygu opsiynau a gwireddu cyfleoedd defnyddio cerbydau hydrogen yn gynnar. Bydd y dasg hon hefyd yn asesu'r cyfle ar gyfer cyfleoedd caffael ar y cyd er mwyn lleihau'r gost o fabwysiadu fflyd hydrogen newydd. Canlyniadau'r dasg hon fydd adolygiad cynhwysfawr o weithredwyr fflyd hydrogen posibl yng Nghymru a chynllun datblygu ymarferol i drawsnewid neu ddatblygu fflydoedd hydrogen newydd, gan gynnwys y cyfluniadau economaidd / ariannol optimal ar gyfer datblygu fflydoedd hydrogen.

Nodi lleoliadau strategol gorsafoedd ail-lenwi

Bydd y dasg hon yn dadansoddi lleoliad optimal gorsafoedd ail-lenwi hydrogen yng Nghymru er mwyn galluogi fflydoedd (yn benodol) i gael eu sefydlu a'u hehangu i gynllun datblygu seilwaith trylwyr. Bydd yr ymagwedd a fabwysiedir yn ystyried ystod o ysgogwyr, gan gynnwys targedau lleihau allyriadau, crynodiadau o gerbydau fflyd ar gyfer mabwysiadu'n gynnar, cynllunio trawsnewid fector tanwydd, cyflenwi polisïau cludiant a pholisïau cysylltiedig eraill ac ystyriaethau gofodol. Y dull dosbarthu fydd drwy gynllun datblygu daearyddol wedi’i optimeiddio o orsafoedd ail-lenwi hydrogen yng Nghymru, sy’n nodi mabwysiadwyr di-oed a mabwysiadwyr cynnar yr ail gam, er mwyn adeiladu coridorau ail-lenwi nodal a chynllun datblygu graddol a anelir at sicrhau gorsafoedd ym mhob man yng Nghymru. Ni fydd y dasg yn ystyried Cymru ar ei phen ei hun, ond fel arweinydd a rhan o raglen ddatblygu fesul cam ar gyfer y DU ac Ewrop.

Datblygu a gosod cyfleusterau ail-lenwi  

Wedi'i harwain gan becyn gwaith 3.5, bydd y dasg hon yn ymdrin â sicrhau cyllid er mwyn caniatáu gosod a chomisiynu cyfleusterau ail-lenwi hydrogen yn unol â’r gyllideb. Mae’r gwaith o gyflawni’r dasg hon yn llawn yn amod angenrheidiol ar gael cyllid cyfalaf ychwanegol i dalu am y costau caffael, gosod a chomisiynu'r systemau ail-lenwi newydd, yn ogystal ag unrhyw gostau gweinyddol fel caniatâd cynllunio. Rhagwelir y bydd y dasg hon yn cyflenwi’r gwaith o ddatblygu o leiaf un ac o bosibl ddau gyfleuster ail-lenwi yng Nghymru yn ogystal â'r cyfleusterau presennol ym Maglan.

USW Logo
LCRI
SERC
ERDF logo