Hydrogen Centre

Hydrogen Centre
Hydrogen Centre Aerial View

Canolfan Ymchwil ac Arddangos Hydrogen Prifysgol De Cymru ym Maglan

Datblygwyd gan Brifysgol De Cymru gyda chyllid rhannol oddi wrth Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop, y Ganolfan Hydrogen yw canolbwynt gwaith Ymchwil, Datblygu ac Arddangos technoleg ynni hydrogen yng Nghymru. Wedi'i leoli ym Mharc Ynni Baglan, cefnogwyd y Ganolfan Hydrogen gan Gyngor Castell-nedd Port Talbot a Llywodraeth Cymru.

Gan adeiladu ar waith ymchwil cydnabyddedig y Brifysgol i ynni hydrogen, drwy'r Ganolfan Ymchwil Amgylchedd Cynaliadwy (SERC), mae'r Ganolfan Hydrogen yn darparu platfform ar gyfer datblygiad arbrofol o gynhyrchiad hydrogen adnewyddadwy a storio ynni hydrogen newydd. Mae'r ganolfan yn galluogi rhagor o ymchwil a datblygiad o gerbydau hydrogen, cymwysiadau celloedd tanwydd a systemau ynni hydrogen cyffredinol. Mae'r ganolfan yn bwynt ffocws ar gyfer cyfres o brosiectau cydweithredol rhwng Prifysgol De Cymru a phartneriaid academaidd a diwydiannol eraill.

Un o brif swyddogaethau'r Ganolfan Hydrogen yw codi ymwybyddiaeth o hydrogen fel cludydd ynni glân a chynaliadwy, gyda'r potensial i oresgyn ein dibyniaeth ar ynni a gaiff ei fewnforio. Yn ogystal â'r gwaith a ddisgrifiwyd ar dechnoleg hydrogen, ymchwilir i effeithiau economaidd a chymdeithasol ynni hydrogen yn y Ganolfan Hydrogen.

USW Logo
LCRI
SERC
ERDF logo