Ail-lenwi HCNG

Baglan HCNG Refueller 2

Yn ogystal â chreu gorsaf ail-lenwi hydrogen gyntaf Cymru, mae gan y Ganolfan Hydrogen ail-lenwr arbenigol sy'n caniatáu am gymysgeddau o hydrogen a nwy naturiol cywasgedig (CNG). Mewn nifer o wledydd, mae CNG yn danwydd cyffredin i gerbydau. Nid dyma'r sefyllfa yn y DU er bod diddordeb cynyddol oherwydd y potensial i leihau costau a lleihau allyriadau CO2.

Mae gan Brifysgol Morgannwg ddiddordeb mewn ymestyn y buddion hyn drwy ymchwilio i fuddion cymysgu hydrogen gyda CNG i gael ei  ddefnyddio mewn cerbydau. Mae rhywfaint o'r diddordeb hwn yn deillio o ymchwil SERC i gynhyrchu biohydrogen a biomethan drwy brosesau eplesu.

USW Logo
LCRI
SERC
ERDF logo