Gweledigaeth Ynni Hydrogen Cymru

Gweledigaeth Ynni Hydrogen Cymru

Mae gan Gymru nifer o fanteision y gellir eu defnyddio wrth drawsnewid i economi hydrogen:

Mae ein toreth o adnoddau naturiol yn darparu cyfle inni lanhau ein system ynni. Fodd bynnag, mae un rhan fawr o'n galw am ynni bron yn holl ddibynnol ar gynhyrchion yn seiliedig ar olew, sef cludiant. Gall cyfuno ein hasedau adnewyddadwy gyda'r gwaith o gynhyrchu hydrogen ddechrau goresgyn dibyniaeth ein sector cludiant ar olew a darparu buddion amgylcheddol sylweddol.

Rydym yn meddu ar gymhwysedd rhagorol mewn nifer o ddiwydiannau sy'n berthnasol yn uniongyrchol i'r economi hydrogen, sef y diwydiannau cerbydau, cemegol, metelau a microelectroneg yn ogystal â'n harbenigedd hirdymor ym maes amaethyddiaeth. I droi hyn yn fantais gystadleuol inni, bydd angen gweledigaeth, cydweithrediad a phenderfyniad.

Mae gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ddyletswydd nodedig i hyrwyddo datblygiad cynaliadwy ac mae wedi gosod nodau heriol ar gyfer mabwysiadu ynni adnewyddadwy, mae'n ceisio hyrwyddo adnoddau adnewyddadwy er mwyn gwella cyfleoedd diwydiannol, gwledig a masnachol ac yn rhoi Cymru yn sefyllfa lle y mae'n arddangos ynni adnewyddadwy.

Yr hyn sy'n bwysig nawr yw sut rydym yn penderfynu defnyddio’r manteision hyn wrth geisio system ynni lanach yn y dyfodol. Rydym yn wynebu nifer o heriau wrth drosglwyddo i economi hydrogen, ond amlinellodd y ddogfen Weledigaeth sut y gellir mynd i'r afael â'r heriau hyn a sut y gall y trawsnewidiad hwn fod o fantais i Gymru.

Hydrogen yw'r elfen fwyaf cyffredin yn y bydysawd.

  • Mae'n gludydd ynni, sydd angen ffynhonnell ynni cynradd i'w gynhyrchu.
  • Yn debyg i drydan, mae'n cyflenwi ynni ar ffurf y gellir ei defnyddio, ond mae'n haws storio hydrogen.
  • Mae'n bosibl cynhyrchu hydrogen o ystod o ffynonellau adnewyddadwy ac anadnewyddadwy.
  • I gyfrannu at economi carbon isel, mae'n rhaid cynhyrchu'r hydrogen yn gynaliadwy, e.e. drwy electrolysis gan ddefnyddio trydan a gynhyrchwyd mewn ffordd adnewyddadwy, neu o fiomas drwy eplesu microbaidd o fiomas gwlyb neu drwy brosesu thermal o fiomas coed.
  • Caiff hydrogen ei gynhyrchu, ei storio a'i ddosbarthu i ystod o ddiwydiannau.
  • Mae ymchwil a datblygu ledled y byd yn canolbwyntio ar ddatblygu dulliau mwy economaidd a chynaliadwy o gynhyrchu, gwella dulliau storio a datblygu technolegau defnydd terfynol gwell, gan gynnwys celloedd tanwydd, injans tanio a thyrbinau.
  • Mae gan hydrogen botensial mawr fel tanwydd cludiant glân y gellir ei gynhyrchu o nifer o adnoddau cynhenid ac nid yw'n dibynnu ar danwydd ffosil a gaiff ei fewnforio.
  • Gallai hydrogen chwarae rôl o ran storio ynni a gallai leihau rhai o'r problemau sy'n gysylltiedig ag ysbeidioldeb cynhyrchu trydan o'r haul, y gwynt a'r môr.
  • Mae'n bosibl trawsnewid hydrogen yn drydan drwy gelloedd tanwydd sefydlog neu gludadwy i'w defnyddio mewn cymwysiadau yn ymestyn o adeiladau i ffonau symudol.
  • Wrth ei ddefnyddio, mae hydrogen yn lân, yr unig sgil-gynnyrch mewn cell danwydd yw anwedd dŵr, felly yn ogystal â dileu allyriadau nwyon tŷ gwydr, gall hydrogen hefyd ymladd yn erbyn llygredd atmosfferig ar lefel leol.

 

USW Logo
LCRI
SERC
ERDF logo