SERC

SERC

Mae'r Ganolfan Ymchwil Amgylchedd Cynaliadwy'n gwneud ymchwil cenedlaethol o’r radd flaenaf i drin gwastraff a chynhyrchu ynni o wastraff biomas a dyfwyd yn gynaliadwy. I gyflawni hyn, gwnaed buddsoddiad sylweddol yn y cyfleusterau sydd ar gael i ymchwilwyr a myfyrwyr.

Labordy Trin Dŵr Gwastraff a Chynhyrchu Hydrogen drwy Eplesu

Dyma labordy penodedig ar gyfer datblygu a phrofi bioadweithyddion ar raddfa labordy. Mae'r ymchwil a wneir yn cynnwys optimeiddio cynhyrchu hydrogen a methan o amrywiol swbstradau gwastraff, ac mae wedi bod yn allweddol i ddatblygiad llwyddiannus sawl system ar raddfa maes.

Labordy Cromatograffaeth Hylif Perfformiad Tra Uchel

SERC yw un o ychydig bach o safleoedd yn y DU sy'n  gwneud ymchwil amgylcheddol gan ddefnyddio'r  Gromatograffaeth Hylif Perfformiad Tra Uchel / Sbectromedreg Màs (UPLC-MS) diweddaraf. Mae'r dull dadansoddol hwn yn darparu canlyniadau tra chywir i grynodiadau nano-gram. Mae'r offer yn cael ei ddefnyddio ar hyn o bryd i benderfynu ar natur a chrynodiadau cynhyrchion ymddatodiad ystod o gemegau organig fel deunyddiau fferyllol a phlaleiddiaid, a sut y gall y rhain effeithio ar yr amgylchedd neu ar weithrediad canolfannau trin dŵr gwastraff.

Labordy Dadansoddol Cyffredinol

Mae gan SERC ystod eang o offer i ddadansoddi priddoedd, hylifau a nwyon.  Mae’r rhain yn cynnwys cromatograffaeth nwy, sbectromedreg mas,  echdyniad cam solet awtomatig (SPE), meicro-echdyniad cyfnod solet (SPME), cromatograffaeth cyfnewid ïonau, ac ystod lawn o dechnegau 'cemeg wleb'. Mae ein technegwyr labordy ar gael i helpu gyda datblygu dulliau, paratoi samplau a dadansoddi.

Labordy Microbioleg Molecwlar

Mae SERC yn datblygu labordy microbioleg molecwlar ar hyn o bryd a fydd yn caniatáu cynnal ystod o weithdrefnau microbioleg molecwlar. Mae'r rhain yn cynnwys ynysu DNA/RNA, Adwaith Cadwynol Polymeras Amser Real (PCR - Amser Real), dilyniannu DNA/RNA a chreu dulliau adnabod ôl bys genynnol. Mae’r ymchwil a wneir yn y cyfleuster hwn yn caniatáu inni olrhain datblygiad rhywogaethau microbaidd penodol o fewn bioadweithyddion a chyfleusterau trin gwastraff biolegol eraill, a bydd y wybodaeth hon yn hwyluso gwelliannau sylweddol o ran dyluniad a pherfformiad.

Cyfleusterau TG

Ymhlith y pethau y gallwn eu gwneud yn fewnol y mae modelu mathemategol gan ddefnyddio MATLAB a dadansoddiad cylch oes gan ddefnyddio SIMAPrô. Mae ein holl staff academaidd ac ymchwilwyr yn elwa ar y cyfleusterau cyfrifiadurol pen bwrdd diweddaraf i gefnogi eu gwaith. At hynny, mae gan staff fynediad at rwydwaith y Brifysgol, cylchgronau a chronfeydd data academaidd, ac ystod lawn o gyfleusterau meddalwedd a chaledwedd ar draws y campws.

Mae rhagor o wybodaeth am weithgareddau Ymchwil SERC i'w chael yma
 

USW Logo
LCRI
SERC
ERDF logo