Storio Ynni Hydrogen

Prif gydrannau system storio ynni hydrogen yw electrolyswr, storfa hydrogen a chell danwydd. Mae'r electrolyswr yn defnyddio ynni ar ffurf trydan i hollti dŵr yn hydrogen ac ocsigen. Mae'n bosibl storio'r hydrogen wedyn, fel arfer mewn silindrau nwy. Mae'r gell danwydd yn cyfuno'r hydrogen a storir gydag ocsigen i gynhyrchu ynni trydanol ar alwad, gyda dŵr fel isgynnyrch. Yn ogystal â'r cydrannau sylfaenol hyn, mae angen offer ategol fel triniaeth dŵr, cywasgu a gweddnewid pŵer er mwyn i'r system weithredu.

Gall storio ynni hydrogen gynnig datrysiad effeithiol ar gyfer lleihau'r gwahanol allbynnau pŵer amrywiol sy'n gysylltiedig â ffynonellau ynni adnewyddadwy. Wrth i'r defnydd o gynhyrchu pŵer adnewyddadwy ar rwydweithiau trydan gynyddu, mae'r angen am ddull storio ynni yn cynyddu. Gall storio ynni hydrogen ddarparu datrysiad ar gyfer storio ynni yn yr hirdymor ar rwydweithiau trydan. Pan gaiff ei ddefnyddio ar y cyd â storio ymateb cyflym yn y tymor byr, er enghraifft storio mewn batris, gall fod yn addas ar gyfer nifer o gymwysiadau gan gwmpasu ystod o amserlenni storio gwahanol. Mewn systemau arunig, mae'n bosibl cynhyrchu hydrogen yn ystod cyfnodau pan fydd gormod o bŵer adnewyddadwy'n cael ei gynhyrchu, a'i ddefnyddio pan fydd y galw am drydan yn uwch na'r hyn a gynhyrchir gan y ffynhonnell adnewyddadwy er mwyn sicrhau cyflenwad cyson o drydan.

Yng Nghanolfan Hydrogen Baglan, mae gwaith ar y gweill i asesu gweithrediad systemau storio hydrogen o dan yr amodau amrywiol o ffynonellau adnewyddadwy. Ymhlith yr offer a osodwyd yn y Ganolfan Hydrogen y mae ectrolyswyr alcalïaidd a PEM, cell danwydd PEM, silindrau storio hydrogen ac offer ategol.Mae hefyd yn bosibl i orsaf ail-lenwi tanwydd a leolir yng Nghanolfan Hydrogen Baglan ddefnyddio'r hydrogen. Mae gweithrediad y system gyfan, yn ogystal â pherfformiad yr electrolyswyr sy’n cael eu pweru gan system solar ffotofoltaig ac adnoddau adnewyddadwy eraill yn destun ymchwil ar hyn o bryd.

USW Logo
LCRI
SERC
ERDF logo