Storio Ynni Hydrogen

CymruH2Wales - Pecyn Gwaith FLEXIS 5

FLEXIS Logo

Optimeiddio'r rhyngwyneb rhwng trydan adnewyddadwy ysbeidiol a hydrogen fel storfa ynni

[For more information on the Hydrogen Storage and Materials Science work, led by Prof David Antonelli at the University of South Wales click here]

Mae cynyddu'r mewnbwn adnewyddadwy i'r grid trydan yn dod â gostyngiad mewn CO2, ond mae amrywiaeth gynhenid cynhyrchu ynni adnewyddadwy yn her i weithrediad y grid ac yn cyflwyno'r angen i storio ynni. Mae ymchwil Prifysgol De Cymru yn y maes hwn yn canolbwyntio ar ddefnyddio hydrogen fel dull dichonadwy o storio ynni. Mae'r gwaith yn cynnwys ymchwilio, gan ddefnyddio technegau modelu dynamig, i optimeiddio a gwella systemau storio ynni hydrogen i'w defnyddio fel cydbwysedd effeithiol ar gyfer porthiannau trydan adnewyddadwy ysbeidiol. Mae'r pecyn gwaith hefyd yn canolbwyntio ar electrolyswr, datblygu dulliau storio hydrogen a chell danwydd, gan gynnwys datblygu rhyngweithiad cyffredinol y system.

Wedi'i leoli yng Nghanolfan Hydrogen y Brifysgol ym Maglan, mae'r ymchwil yn adeiladu ar yr offer hydrogen adnewyddadwy presennol, gan gynnwys electrolysis, storio a systemau cell danwydd sefydlog. Y bwriad yw datblygu rheolaeth proses system optimal newydd a datblygu offer newydd fel rhan o'r broses hon o storio ynni hydrogen. Mae rhan o'r gwaith ymchwil a datblygu hwn yn fewnol, ond mae'r pwyslais ar weithio gyda phartneriaid diwydiannol.

Ar hyn o bryd mae'r Ganolfan yn cynnwys cynhyrchu trydan cyfredol o’r araeau ffotofoltaig sydd wedi'u gosod, ond er mwyn ystyried proffiliau gwynt, morol, neu fathau eraill o drydan adnewyddadwy, mae system efelychu pŵer yn cael ei datblygu. Bydd electrolyswyr hydrogen gwahanol yn cael eu datblygu a'u profi gyda phartneriaid er mwyn gwella'u defnydd gyda phorthiant pŵer amrywiol. Yn ogystal â’r dull storio cywasgedig sydd eisoes yn bodoli, ymchwilir i systemau storio hydrogen eraill, gyda’r bwriad o ddatblygu cyfleuster storio , datblygu a phrofi hydrogen yn y tymor hwy. Bydd gweithrediad a datblygiad cell danwydd PEM hefyd yn rhan o'r gweithgaredd.

Rhagwelir y byd y pecyn gwaith hwn yn arwain at eiddo deallusol newydd o bwys mawr, y gellir ei ddatblygu yng Nghymru.

USW Logo
SERC
FLEXIS Logo